Psalms 139

Gofal Duw amdana i

I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd.

1O Arglwydd, rwyt ti'n fy archwilio i,
ac yn gwybod popeth amdana i.
2Ti'n gwybod pryd dw i'n eistedd ac yn codi;
ti'n gwybod beth sydd ar fy meddwl i o bell.
3Ti'n cadw golwg arna i yn teithio ac yn gorffwys;
yn wir, ti'n gwybod am bopeth dw i'n wneud.
4Ti'n gwybod beth dw i'n mynd i'w ddweud
cyn i mi agor fy ngheg, Arglwydd.
5Rwyt ti yna o'm blaen i a'r tu ôl i mi,
mae dy law di arna i i'm hamddiffyn.
6Ti'n gwybod popeth amdana i! Mae tu hwnt i mi –
mae'n ddirgelwch llwyr, mae'n ormod i mi ei ddeall.
7Ble alla i fynd oddi wrth dy Ysbryd?
I ble alla i ddianc oddi wrthot ti?
8Petawn i'n mynd i fyny i'r nefoedd, rwyt ti yno;
petawn i'n gorwedd i lawr yn Annwn
139:8 Annwn Hebraeg,  Sheol, sef “y byd tanddaearol ble mae'r meirw yn mynd”
, dyna ti eto!
9Petawn i'n hedfan i ffwrdd gyda'r wawr
ac yn mynd i fyw dros y môr,
10byddai dy law yno hefyd, i'm harwain;
byddai dy law dde yn gafael yn dynn ynof fi.
11Petawn i'n gofyn i'r tywyllwch fy nghuddio,
ac i'r golau o'm cwmpas droi yn nos,
12dydy hyd yn oed tywyllwch ddim yn dywyll i ti!
Mae'r nos yn olau fel y dydd i ti;
mae goleuni a thywyllwch yr un fath!
13Ti greodd fy meddwl a'm teimladau;
a'm plethu i yng nghroth fy mam.
14Dw i'n dy foli di,
am fod dy waith di mor syfrdanol a rhyfeddol!
Mae'r cwbl rwyt ti'n wneud yn anhygoel!
Ti'n fy nabod i i'r dim!
15Roeddet ti'n gweld fy ffrâm i
pan oeddwn i'n cael fy siapio yn y dirgel,
ac yn cael fy ngweu at ei gilydd yn nyfnder y ddaear.
16Roeddet ti'n fy ngweld i cyn bod siâp arna i!
Roedd hyd fy mywyd wedi ei drefnu –
pob diwrnod wedi ei gofnodi yn dy lyfr,
a hynny cyn i un fynd heibio!
17O Dduw, mae dy feddyliau di'n rhy ddwfn i mi;
mae gormod ohonyn nhw i'w deall!
18Petawn i'n ceisio eu cyfri nhw,
byddai mwy nag sydd o ronynnau tywod!
Bob tro dw i'n deffro
rwyt ti'n dal yna gyda mi!
19O Dduw, pam wnei di ddim lladd y rhai drwg,
a gwneud i'r dynion treisgar yma fynd i ffwrdd?
20Maen nhw'n dweud pethau maleisus amdanat ti!
Dy elynion di ydyn nhw! Maen nhw'n dweud celwydd!.
21O Arglwydd, mae'n gas gen i y rhai sy'n dy gasáu di!
Mae'r bobl sy'n dy herio yn codi pwys arna i!
22Dw i'n eu casáu nhw â chas perffaith!
Maen nhw'n elynion i mi hefyd.
23Archwilia fi, O Dduw, i weld beth sydd ar fy meddwl;
Treiddia'n ddwfn, a deall fel dw i'n poeni.
24Edrych i weld a ydw i'n gwneud rhywbeth o'i le,
ac arwain fi ar hyd yr hen lwybr.
Copyright information for CYM